Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SYR HENRY JONES AC ADDYSG POBL MEWN OED Gan William GEORGE "Y mae arnaf eisiau dau beth. Y mae eisiau i'r Prifysgolion fod fel Eglwysi Cadeiriol-tair neu bedair Prifysgol fel Cathedrals, â .changen eglwys ymhob plwy. Fe ddylai bod prifysgol fechan ymhob tref farchnad trwy Gymru i gyd, a chyfle rhad i'r bechgyn ieuainc fynd ymlaen â'u haddysg. Oblegid beth ydyw Addysg? Techyd enaid ydyw; bwyd, lluniaeth, cynhaliaeth enaid. Nid wyf yn credu mewn gofalu am y corff nes bod yn un ar bymtheg oed yn unig. Edrych ar ò\ iechyd y corff ar hyd ein hoes y byddwn. Ac y mae eisiau edrych ar ôl pethau'r meddwl a'r enaid ar hyd ein hoes. "Yr ail beth ydyw hyn: y mae eisiau i ddynion cyfrifol yr ardaloedd fanteisio ar y mân brifysgolion hyn drwy drefnu cyfres o .ddarlithiau bob gaeaf ymhob tref farchnad-un ar lenyddiaeth neu hanesiaeth, un arall ar un o'r gwyddorau, ac un i ehangu ystyr crefydd 'Does gennych ddim yn awr rhwng y seiad a'r pictures. Y mae eisiau rhywbeth yn y fan yna. — Syr Henry Jones, yn Eisteddfod iGenedlaethol CorweJl, 1919. Cofiaf yn dda am Fudiad Syr Henry Jones, ac am ei araith yng ]NTghorwen. Bu ef a minnau yn trafod y mater gryn lawer ymlaen llaw. Y syniad wrth wraidd y Mudiad ydoedd y dylai'r Eglwysi-er eu mwyn eu hunain yn ogystal ag er ffyniant addysg-gymryd rhan union- gyrchol ac effeithiol yng nghyfundrefn addysg y wlad. Er mwyn hyn, ei gynllun ef, yn syml, ydoedd bod i bob eglwys fynd yn gyfrifol am swm penodol, fel ag i sicrhau cronfa a fuasai'n ddigonol i sefydlu a chynnal Dosbarthiadau teilwng ymhob plwyf a phentref drwy Gymru. Cymeradwywyd y syniad yn fawr ar y pryd, ac aed ati yn ddi-oed i benodi Pwyllgor, ac i gasglu arian. Nid wyf yn cofio'n iawn ar hyn o bryd pwy oedd ar y Pwyllgor hwn, ond credaf fod Syr Robert Thomas yn un, a hefyd Dr. Tom Jones, ac mai'r diweddar Syr Percy Watkins oedd yr Ysgrifennydd, a minnau'n Gadeirydd. Edwino a ddarfu'r Mudiad cyn hir-a hynny yn bennaf, mi goeliaf, oherwydd dirywiad yn iechyd Syr Henry ei hun yn y cyfnod hwn, a chyda'i farw ef bu'r Mudiad farw hefyd. Ymhen blynyddoedd ar ôl hyn, gwnaed cais ataf gan Syr Percy Watkins a Dr. Tom Jones i gydsynio i dalu'r arian a oedd mewn llaw i drysorfa Coleg Harlech, gan fod amcanion y Coleg hwnnw yn cyd-fynd i fesur helaeth ag amcanion Mudiad Syr Henry Jones. Ymddangosai'r cais yn un teg a rhesymol i mi o dan yr amgylchiadau, a chydsyniais ag ef, yn hytrach na bod yr arian yn gorwedd yn farw yn y banc ddim yn hwy. Ac felly y talwyd yr arian drosodd-ychydig dros gan punt, os iawn y cofiaf Ac felly hefyd y terfynodd un arall o niferus "fudiadau" Cymru.