Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HEN FUDIAD ADDYSG YNG NGHYMRU Gan D. T. EATON Heddiw, ac addysg y gweithiwr yn cael cymaint o sylw, ac yn chwarae rhan mor bwysig ym mywyd y wlad, diddorol fydd edrych yn ôl gan mlynedd, neu fwy, er mwyn gweld pa beth a ddigwyddodd ynglŷn â'r mater hwn yr adeg honno. Dyddiau cynnar y Chwyldro Diwydiannol oedd y rhain, a'r unig leoedd, ar wahân i gapel ac eglwys, a oedd gan y bobl gyffredin i ymgyfathrachu â'i gilydd oedd y dafarn a'r gwindy, ac felly y bu nes dyfod o'r clybiau i'r pentrefi. Ond yr oedd ysbryd y dadeni yn deffro yn y wlad, a'r awydd am wybodaeth yn meddiannu'r werin bob!. Trwy yr awydd hwn y cychwynnwyd un o'r sefydliadau cyntaf a geisiodd roddi gwir addysg i'r gweithwyr, sef yw hwnnw, y Mechanics Institute. O'r Alban y daeth i ddechrau, ac fe ddywedir am Dr. Birkbeck, arloesydd y mudiad, pan ddaeth i gysylltiad â'r gweithwyr a oedd yn gwneuthur peiriant i' w fferyllfa, iddo gael ei synnu gan gymaint eu hawydd am wybodaeth. Canlyniad hyn oedd iddo sefydlu dosbarth i'w haddysgu. Cychwynnwyd y dosbarth yn y flwyddyn 1800, â 70 o aelodau, ac ar ddiwedd y tymor yr oeddynt yn rhifo 500. Yr amcan yn gyntaf oedd addysgu'r gweithwyr yn eu crefftau, ond yr oedd yr awydd am wybodaeth yn cynyddu, a bu raid ehangu'r cwrs, a chynnwys addysg gyffredinol ynddo. O'r dosbarth hwn y sefydlwyd y Mechanics Institute cyntaf, yn Glasgow, Gorffennaf 1823, a Dr. Birkbeck ei brif noddwr. Ond beth am Gymru ? Yn Adroddiad y Llywodraeth am gyflwr Addysg yng Nghymru (1847) dywedir nad oedd Mechanics Institutes yn bod yng Ngogledd Cymru. Cofnodwyd yn 1851, fodd bynnag, fod Mechanics Insti- tutes ym Mrymbo a'r Drefnewydd, Literary and Scientific Institute yn Amlwch, a Workmen's Literary Institute yn Wrecsam; yr oedd 354 0 aelodau'n perthyn iddynt, a 2,324 o gyfrolau yn eu llyfrgelloedd. Ceisiwyd sefydlu llyfrgelloedd a darllenfeydd mewn lleoedd eraill o drq i dro, ond methiant a fuont ar y cyfan. Glynwyd wrthynt, y mae'n wir, er mwyn yr ychydig a ymddiddorai ynddynt. Yr oedd pethau yn wahanol yn y De. Rhwng y blynyddoedd 1826 a 1880, ffynnodd pymtheg o'r sefydliadau hyn. Sefydlwyd y cyntaf ohonynt yn Abertawe yn y flwyddyn 1826, ac yn y cyfarfod agoriadol a gynhaliwyd yn neuadd y dref, soniodd J. H. Moggridge, un o' i noddwyr, am y feirniadaeth a gawsent wrth gychwyn y mudiad. Dywedwyd y byddent yn codi'r gweithiwr o'i ddosbarth, fel na byddai neb ar ôl i "dorri cynnud a thynnu dwfr"; ofnwyd y byddai'r gweithiwr yn datblygu i fod yn gallach na'i well, ac y gwneid ef yn anniddig yn ei waith-creu awydd ynddo i segura, a darllen nofelau ac ysgrifennu llythyrau caru. Dyna, meddai ef, rai o'r bwganod a godwyd yn erbyn y mudiad. Er yr holl frwdfrydedd a ddangoswyd ar y cychwyn, ni bu'r mudiad yn llwyddiant yn Abertawe. Ond yr oedd yr awydd am addysg yn aros yno o hyd, oherwydd cawn adroddiadau am gymdeithasau a sefydlwyd yno o dro i dro. Y mwyaf llwyddiannus o'r rhai hyn oedd The Workmen's Club and Institute, a gyfarfu yn y Ragged School. Dywedai aelodau hon mai wedi newid yr enw a'r dull o reoli yn unig yr oeddynt. Mechanics Institute ydoedd o hyd yng ngwir ystyr y gair. Y rheswm. meddent hwy, am afiwyddiant y Mechanics Institute oedd mai ei rheoli dros y gweithwyr a