Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYWYDDAU SERCH DAFYDD NANMOR GAN J. Wyn WILLIAMS Bardd teulu, a bardd athronyddol, oedd Dafydd Nanmor yn bennaf, ac un o feirdd yr uchelwyr, yng ngwir ystyr y gair. Credai mai cyfundrefn y bendefigaeth oedd y gyfundrefn orau i fyw dani, a honno'n bendefigaeth wedi ei seilio ar y grefydd Gatholig. Byddai pob dyn yn ddiogel o dan y gyfundrefn hon, yn ôl Dafydd Nanmor. Gellir ei alw yn fardd diogelwch hefyd, canys casbeth Dafydd Nanmor oedd myned i leoedd anniogel a pheryglus. Yn wir, yr oedd teithio yn gryn wrhydri ganddo. Carai bopeth a berthynai i'r bendefigaeth-yr adeiladau heirdd, y bwyd blasus, yr uchelwyr a'u gwragedd, gyda'u gwisgoedd gwych a drud. Ceir peth o'r holl elfennau hyn yn ei ganu serch: merched a berthynai i'r bendefigaeth oedd ei gariadau, a'r rheini wedi eu gwisgo yn nilladau gwych y llysoedd. Nid oes nemor ddim canu natur pur yn ei gerddi serch, a dyma un gwahaniaeth rhyngddo a Dafydd ap Gwilym. Nid "crefydd y gwvdd a'r gog" oedd crefydd serch Dafydd Nanmor. Ond er na cheir Ilawer o ganu natur yn ei gerddi serch, y mae ei gyffelybiaethau a'i ddisgrifiadau o ferched cystal â rhai o linellau gorau Dafydd ap Gwilym, os nad gwell na hwynt. Nid oes amheuaeth nad Dafydd Nanmor oedd un o feirdd mwyaf Cymru yn y cyfnod ar ôl Dafydd ap Gwilym. Rhoddaf yn awr ychydig nodiadau ar rai o' i gywyddau serch. Ceir y cywyddau y cyfeirir atynt yn y llyfr, "The Poetical Worhs ofDafydd Nanmor" gan Thomas Roberts ac Ifor Williams, a chyfeirir at y cywyddau yn ôl eu rhif yn y llyfr hwnnw. Cywydd XXVI. Yn y cywydd hwn, gwelir bod Dafydd Nanmor yn efelychu dull Dafydd ap Gwilym o anfon llatai at ei gariad. Gellir casglu felly fod hwn yn waith cynnar o'r eiddo, canys tuedd pob bardd ifanc yu efelychu dull ei feistr. Ond y mae cryn wahaniaeth rhwng gweithiau Dafydd ap Gwilym a'r cywydd hwn. Sylwer mai'r Paun yw'r llatai yma, aderyn a drigai ar dir yr uchelwyr. Dengys hyn ddau beth, 0 leiaf, sef, bod cariad Dafydd Nanmor at y bendefigaeth mor fawr fel mai'r Paun a enfyn yn llatai at ei gariad; a dengys hefyd fod ei gariad o dras uchel-- yn wir, yr oedd yn ferch i uchelwr, os^gellir dibynnu ar draddodiad. Barn rhai awdurdodau mai ei garwriaeth â Gwen c'r Ddôl oedd yr achos iddo orfod ffoi i'r Deheudir yn gynnar ar ei fywyd. Cywydd XXVII. Cywydd arall i Wen o'r Ddôl Gwaith cynnar arall o'r eiddo, y mae'n debyg. Sylwer fel y mae'r bardd yn edrych ar gadw oed fel cryn wrhydri; "Mi awn a'r gwynt i'm hwyneb, I ben allt, lIe ni bai neb, Er mwyn cyfarfod â merch Dal ynal rhwng dwy lannerch Casbeth Dafydd Nanmor, fel y dywedwyd o'r blaen oedd anniogelwch. Dywaid yn y cywydd hwn y buasai'n well ganddo anfon "llwyth eryr o lythyrau" i'w gariad na myned i'w chyfarfod ar ben allt. Onid oes yma awgrym o garu anghyffwrdd ? Os gwraig briod oedd Gwen-o'r Ddôl hawdd