Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ac a wnaent, yn ewyllysgar, lawer i'ch «cynnorthwyo, os bydd i chwi ymdrechu i ymddwyn fel y gweddai i ddeiliaid da, cymmydogion gonest, ac aelodau heddychol cymdeithas. Na chymmerwch eich annog na'ch cynhyrfu gan ddynion o ddrwg amcanion i wneuthur dim trawsineb yn erbyn neb dynion na'u heiddo, nac i weinyddu llwon anghyfreithlawn y naill i'r llall, yr hyn, yn anocheladwy, a'ch gwna yn agored i gosb ddwys a chyfiawn. "Gwybyddwch fod llaweroedd o'ch cyd-ddeiliaid cam-arweiniedig, o fewn yr ychydig ddyddiau diweddaraf, wedi dyoddef eisoes eithaf llymder cosbedigaeth y gyfraith, a bod llawer ychwaneg dan ddedfryd marwolaeth, a nifeiri lawer i gael eu halltudio dros ystod eu hoes am gyd-ymgynnull yn anghyfreithlawn "Beth bynag a wneloch, gochelwch droseddu cyfreithiau eich gwlad. Beth bynag a wneloch, "Ofnwch Dduw, ac anrhydeddwch y Brenin.- Cymro." Gwrecsam, Ionawr 5, 1831. Ie, atgoffa i weithwyr y cylch yr ydoedd am erchyllterau gweinyddu'r ddeddf yn Ne Lloegr, pan grogwyd tri-dau yng ngolwg eu cydweithwyr- a phan garcharwyd pedwar cant, ac alltudio pedwar cant a hanner i Awstralia. Galwodd y meistri am ail-argraffiad o'r llythyr. Glynodd yr undebwyr yn ffyddlon wrth eu llw a'u cymdeithas. Ni fu'r gweithwyr yn "sefyll" ond am ychydig ddyddiau, ond erys atgofion am y frwydr fawr yn rhan o draddodiad Dinbych a Fflint. Fodd bynnag, gwyliodd y meistri am eu cyfle i ddinistrio, drwy gymorth Arglwydd Melbourne, undeb cyntaf Glowyr a Mwynwyr Gogledd Cymru. (l'w barhau) Y MAE MWY NAG UN v IV. GWYNN JONES (1) DR. T. Gwynn JONES, g. 1871, ym Metws yn Rhos, Sir Ddinbych. Pen Tywysog beirdd a llenorion Cymraeg heddiw, a chyfaill beirdd a llenorion ieuainc; awdur llu o gyfrolau o farddoniaeth, ysgolheigwaith, b:irniadaeth, cyfieithiadau, atgofion, storïau, dramâu-Ymadawiad Arthur, Gwlad y Bryniau, Tir na n-Og, Madog, Y Dwymyn, etc. (2) Gwyn JONES, g. 1907, yn y Coed Duon, Sir Fynwy. Athro Saesneg a Llên Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth; golygydd Welsh Review; awdur Richard Savage, Times Like These, The Buttercup Field, etc. (3) T. GwvN Jones, g. 1904, ym Metws, Rhydaman. Swyddog Addysg Rhanbarthol o dan Bwyllgor Addysg Sir Forgannwg, a'chyn hynny Prif Lyfr- gellydd Sir Gaerfyrddin ac Athro Dosbarthiadau o dan Goleg y Brifysgol, Aberystwyth. (Heblaw A. GWYNN JONES, EMYR GWYNNE JONES, HARRI GWYNN Jones, J. Gwyn Jones, etc., sydd yn ddigon hawdd eu hadnabod oddi wrth ei gilydd),