Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

HELYNTION GLOWYR DINBYCH A FFLINT 1830-31 GAN EMLYN ROGERS "Cewch gyfle yn fuan i'ch enwogi eich hun fel swyddog marchogion." Dyna'r frawddeg gyntaf mewn llythyr a anfonwyd yn hwyr Nos Sul, Rhagfyr 26, 1830, gan W. Eyton, Plas Coed Llai, at Thomas Fitzhugh, Plas Power. Y mae glowyr Penarlâg yn ymgynnull yn Nhreuddyn yfory bore am chwech o'r gloch; bwriadant uno â gweithwyr Brymbo am un-ar-ddeg, ac ymlaen wedyn i blwyf Rhiwabon Anfonwch yn ebrwydd at Syr Watcyn am filwyr cyn yr unant ym Mrymbo Y mae gennym ni fwy na digon i'w wneuthur i rwystro mintai arall o'r glowyr rhag creu terfysg yn Sychtyn a Threffynnon. Duw ei hun a wyr a allwn ni wneud hyn, ond rhaid trio. A nodyn ar ddiwedd y llythyr­"A fyddwch cystal â rhoddi gwely i'r cennad; y mae'n rhy hwyr iddo ddychwelyd." Dyna ddechrau'r terfysgoedd; rhyw bythefnos o amser a gymerodd i sicrhau buddugoliaeth i'r glowyr, ac i osod seiliau, dros amser, i Undeb Gweithwyr Haearn a Glo Gogledd Cymru. Cyfnod cyffrous oedd y blynyddoedd hyn, ac edrydd llawysgrifau Swyddfa Materion Cartref (Home OJjíce Papers) am helyntion mewn rhan- barthau diwydiannol eraill, a barodd ddirfawr bryder i Syr Robert Peel ac Arglwydd Melbourne. O Sir Gaerhirfryn clywid sôn am frwydrau'r werin, ac oddi yno, y mae'n ddiamau, y daeth cenhadon i sefydlu, yn Nhafarn y Boot, Bagillt, Tachwedd 1830, gangen o'r "Friendly Associated Coal Miners' Union Society." Pwy oedd yr arweinwyr pennaf, ni chaiff neb wybod bellach, ond dengys llythyr o eiddo Syr Watkin Williams Wynn, Plas Wynnstay, at Arglwydd Melbourne, fod cyd-ddealltwriaeth yn bod rhwng gweithwyr Rhiwabon a gweithwyr Sir Gaerhirfryn. Yng nghylchoedd Penarlâg, Bwcle, a Threuddyn, aeth y gweithwyr ar streic, yn niwedd Rhagfyr, i hawlio triswllt y dydd i'r torrwr glo, a 2/9 a 2/6 i'r gweithwyr eraill, gan alw am godi pris y glo i bum ceiniog y cant! Galwodd Arglwydd Kenyon am gadernid ar ran y Llywodraeth, a chyhoeddusrwydd i'r cosbau trymion a ddilynai ddrwg-weithredwyr; apeliwyd at noddwyr heddwch i ymrestru Ddydd Llun, Rhagfyr 27, yn Neuadd y Dref, Wrecsam-y sawl yr oedd meirch ganddynt i ymrestru yn yr Yeomanry, a'r lleill fel cwnstabliaid. Danfonodd Syr Stephen Glynne i Gastell Caer am gatrodau o filwyr, ond fe'i gwrthodwyd gan Arglwydd Sheffield a Major Hill. Sŵn terfysg oedd o bob cyfeiriad, ac yr oedd milwyr yn brin. Yn gynnar fore Llun, am chwech o'r gloch, yn ôl cynllun yr Undeb, ymdeithiodd minteioedd o lowyr yn rhengoedd cedyrn drwy Dreuddyn, Brymbo. Pentre'r Fron, a'r pentrefi cyfagos, gan alw ar bob gweithiwr i ymrestru dan faner yr Undeb. Gwelwyd gŵr amlwg o Benarlâg yn tynnu Beibl o'i fynwes, ac â llais clir yn tyngu'r gweithwyr yn aelodau o'r. gym- deithas, a'r rheini, gan gusanu'r Hen Lyfr, yn addo ffyddlondeb i'w cyd-ddynion. "Pan addunedech adduned i'r Arglwydd dy Dduw, nac