Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU Cyf. I HYDREF 1946 Rhif 3 NODIADAU'R GOLYGYDD Y mae hi'n gyfnod atrefnu ar Addysg Pobl mewn Oed yn y wlad hon, o dan Ddeddf Addysg 1944, ac yn wir yr oedd cynlluniau newydd ar dro hyd yn oed cyn pasio'r ddeddf honno. Gesyd y ddeddf newydd gyfrifoldeb arbennig ar yr Awdurdodau Addysg (sef y Cynghorau Sir, yn. gweithredu drwy eu Pwyllgorau Addysg) i drefnu Addysg i Bobl mewn Oed yn ogystal ag i blant. Hyd yn hyn, Colegau'r r Brifysgol (neu n hytrach Fwrdd Estyniad y Brifysgol, yn gweithredu drwy Gyd-Bwyllgor pob coleg), a chymdeith- asau gwirfoddol fel y W.E.A., a fu'n gofalu'n bennaf am yr addysg hon, er bod ambell Awdurdod Addysg-un Sir Forgannwg, er enghråifft-wcdi ceisio darparu eiathrawoneihun, a'i Gyrsiau Addysg ei hun, ers blynydd- oedd. Sôn yr wyf am fath arbennig o Addysg Pobl mewn Oed. Ynglyn ag Addysg Dechnegol, addysg a fydd yn help i ddyn i'w gyfaddasu ei hun ar gyfer ei ddiwrnod gwaith, neu i ymbaratoi ar gyfer swydd well-Gwaith Coed, neuArddio, Peirianyddiaeth, Trydan, Ieithoedd, Rhifyddiaeth, Llaw Fer a Theipio, Coginio a Chadw Ty, a phynciau cyffelyb--gwaith yr Awdurdodau Addysg ydyw darparu'r math hwn o addysg, ac fe'i gwnânt yn eu Hysgolion Nos. Ond am y math o addysg sydd yn diwyllio'r meddwl, astudio pynciau er eu mwyn eu hunain am eu bod yn ddiddorol, neu i gyfaddasu pobl i fod yn well dinasyddion, Colegau'r Brifysgol a'r W.E.A. a fuyn gofalu am hwnnw yn bennaf. Y Colegau a fyddai'n darparu'r athrawon yn y dechrau, ac yn gyfrifol am dalu eu cyflogau Bydd y Weinyddiaeth Addysg yn rhoddi grant tuag at dalu'r cyflog, tua thri chwarter y cwbl, a'r coleg yn darparu'r chwarter arall. Gwaith y W.E.A. yn y dechrau oedd darparu'r dosbarth ar gyfer yr athro, trefnu canghennau yn y gwahanol ardaloedd, ac yna cael dosbarth at ei gilydd, a hwnnw'n dewis y pwnc y carai ei astudio-ac yn dewis yr athro hefyd, hyd y byddai hynny'n bosibl. Rhaid cofio nad rhywbeth i'w wthio ar bobl yn erbyn eu hewyllys ydyw Addysg Pobl mewn Oed. Gwneir addysg yn orfodol ar blant, a bydd pobl brofiadol yn penderfynu pa bynciau a fydd yn orau i'w dysgu iddynt; ond ni ellir trin pobl mewn oed fel plant. Rhaid iddynt hwy gael dewis eu pwnc, a gorau yn y byd os gallant gael yr athro a ddewisent. Trefnu pethau fel hyn oedd gwaith y W.E.A. yn y dechrau, heblaw gwneud gwaith cenhadol o blaid Addysg Pobl mewn Oed-a phob addysg arall, o ran hynny. Dau fath o ddosbarthiadau a drefnid y pryd hyn-Dosbarthiadau Tair Blynedd (Tutoriaí) a Dosbarthiadau Blwyddyn, Dosbarthiadau Arloesi y disgwylid iddynt dyfu yn Ddosbarthiadau Tiwtorial. Yr oedd gwaith ysgrifenedig yr aelodau mewn llawer o'r dosbarthiadau hyn, yn ôl tystiolaeth