Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR (THE WORKERS' EDUCATIONAL ASSOCIATION) Sefydlwyd CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR yn 1903, gan Undebwyr Llafur ac aelodau o Gymdeithasau Cyd- weithredol, a'i hamcan i ddwyn Addysg y Prifysgolion i gyrraedd gweithwyr o bob dosbarth. Mudiad Llafur ydyw, heb fod yn perthyn i'r un blaid wleidyddol nac enwad crefyddol fwy na'i gilydd. Rheolir ef gan yr Aelodau eu hunain, ac y mae ei gyfansoddiad yn gwbl ddemocratig. Bwriedir Dosbarthiadau'r W.E.A. i ddarparu cyfleus- terau Addysg i Bobl mewn Oed, yn feibion ac yn ferched. Ymhlith y pynciau a astudir ynddynt bydd Economeg, Hanes, Llenyddiaeth, Meddyleg, Athroniaeth, Gwyddor Gwleidyddiaeth. Llywodraeth Leol, Cerddoriaeth, aphynciau eraill sydd tu allan i waith beunyddiol yr aelodau. Sefydlir CANGHENNAU o'r W.E.A. mewn canolfannau cyffcus i hyrwyddo gwaith y brif Gymdeithas. Yn gysylltiedig â hwy ceir Canghennau o Undebau Llafur, Cynghorau Llafur, Cymdeithasau Cydweithredol, Clybiau'r Gweithwyr, Undebau Athrawon, Cymdeithasau Gwleidyddol, ac aelodau unigol. Bydd yn rhan o waith y Gangen drefnu dosbarthiadau yn y cylch, a hefyd trefnu Darlithoedd Unigol, Ysgolion Undydd ac Ysgolion Haf, a Chynadleddau a Chyfarfodydd Cyhoeddus i oleuo barn y wlad ar bynciau Addysg. Cyn sefydlu Cangen mewn un ardal fe ddylid ymgynghori yn gyntaf â'r Trefnydd, un ai-D. T. GUY, 38 Charles Streét, Caerdydd, neu C. E. THOMAS, Swyddfa'r W.E.A., Coleg y Brifysgol, Bangor.