Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

300 heb fod yn fwy Hester na hithau ag yr oedd hi o i i 2 droedfedd y[n]fwy i huchder na llawer Llong yr oedd hynny yn llawer o ddaioni ini canys yr oedd mwy o ar a lie i ddodi hoylon i hongian pethau o law uwch ben ag ni a geisom y fraint o ddyfod heb gau yr Hatches un waith, ond fe ddaeth un don i mewn ar y 26ain o Orphenaf pe buasai llawer o fach [sic] honno yn dyfod fe fuasai yn rhaid iw cau yr oedd o 15 troedfedd i 20 yn uwch nar dec a hwnnw 15 troedfedd yn uwch nar dwr, ond nid oedd storom fawr iawn gyda hi yr amser hwnnw ond y peth gwaetha oedd arni oedd nid oedd neb yn meddwl fawr am wasanaethu yr hwn sydd yn deilwng o wasanath pob dyn sef yr holl- alluog Dduw, ag nid oedd un pregethwr yn y llong ag felly nid oedd un yn rhoi addysg ir Hall, ag hefyd Llong ddrwg am forio oedfd] hi canys pan y daethom i New York ni a welsom lawer o longau ag oedd gwedi dyfod agos at yr un amser a ninnau maes o Liverpol gwedi dyfod i mewn ers 3 wythnos oi blaen hi, fe gododd tipin o wynt manteisiol ar 4ydd o Orphenaf a thranoeth fe drows fwy in herbyn ag fe gryfhaodd hefyd a fe barhauodd in herbyn hyd yr 11eg a chwedin fe drows on hochor ag fe drafaelsom yn dda iawn hyd y 13eg ag nid aeth hi fawr 0 hynny hyd yr 16eg ag fe aeth hi yn weddol o hynny hy[d] ir 2 lain ag yr oeddem erbyn hynny ar Bank of NewfoundLand ag fe gawsom wynt da iawn fyned dros hwnnw sef South West ag yr oedd llai o niwl o achos hynny canys y mae niwl arno bob amser ond y mae mwy pan byddo y gwynt or North west ag yr oedd y frechwen ar frech goch yn y Llong ag fe aeth Mary fach yn sal yn y frech wen pan daethom ir Banks ag ni chas hi hi yn drwm iawn hi a wellodd ymhen dwy wythnos ag fe ddaethom dros y Bank ar y 23ain ag yr oeddem yn meddwl cyrraedd pen y daith ymhen pedwar diwrnod canys dyna y peth oedd y morwyr yn ei ddweud pe buasai ni yn cael gwynt da, ond fe bar- haoedd in herbyn hyd y I 7eg o Awst ag fe dynwyd lwens y dwfr lawr o 4 pint i 3 J yr un canys yr oedd hi yn wynebu yn ddigon tlawd arnom o achos bod y gwynt yn parhau in herbyn ond fe ddaeth Hester pysgotta in herbyn ar y 13eg o Awst ag fe gawsom gig pysgod o hono ag yr oedd hynny yn dda iawn i llawer oedd yn y llong ond nid oedd arnom ni dim oi angen canys ni a brynasom ni ddigon o bob peth am 10 wythnos ond fel yr oedd yn gwerthy ir passingers ond ar y 17eg yn y bore fe drows y gwynt on hol yn gymwys a mawr oedd y llawenydd oedd ei weled ef fe barhaodd y gwynt yn fanteisiol hyd nes daethom i dir ond ei fod e'n wan ag ar y 25ain fe aeth y Mate i ben y mast i edrych a welai ef dir ni welodd ef ddim y tro hwnnw ag fe aeth eilwaith gyda gostwng haul ag fe safodd yn hir ag fe a waeddodd mi a welaf dir ag yna mor llawen yr oedd pawb yno ag fe safodd llawer i lawr y noswaith honno i gael gweled y Light House canys nid oeddem ni yn galler gweled y tir er ei bod nhwy yn ei weled o ben y mast a fe welodd y