Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Fe saif testunau areithiau Roy Thomas ('Incwm, Cyflogaeth a Chwyddiant'), Ken Richards ('Gwario Cyhoeddus a'n Hiechyd Economaidd') a W. Arthur Thomas ('Economeg-yr Wyddor Siomedig') yng nghanol yr hyn mae'r cognoscenti yn cydnabod fel calon astudiaethau economeg-er nad yw cynnwys eu darnau'n hollol draddodiadol. Neidio i ganol y ddadl gyfoes ynglyn a gwario cyhoeddus a wna Ken Richards. Er mai yn 1979 y traddodwyd ei ddarlith, mae ganddo nifer o ffeithiau syfrdanol i'w ddweud am dwf y sector cyhoeddus. Yn wyneb y ffigurau sydd ganddo, does dim rhyfeddod fod pob llywodraeth ddiweddar-ac yn arbennig yr un bresennol-yn gofidio. Wedi'r cyfan, o gynnyrch sy'n cael ei farchnata mae'n rhaid i dreuliant yr economi ddod bron i gyd, ac fe ddaw ein holl allforion a'n buddsoddiad ni hefyd o'r un sector. Y gofid, wrth gwrs, yw bod y cyhoedd, ar y cyfan, yn tueddu cymryd y 'gyflog gymdeithasol' yn ganiatâol wrth ofyn am godiadau yn eu cyflogau ariannol. Yn anffodus, nid oes gan y llywodraeth gronfa ariannol i ateb twf y gofynion ar wahan i gynnyrch ein trethi ni y cyhoedd. Yn olaf, ond nid lleiaf o bell ffordd, cawn draethodau'r Thomasiaid, sef Roy ac Arthur. Fe fyddai'n anodd dod o hyd i esboniad cliriach o ddamcaniaeth Keynes; ei hymlygiadau a'i chanlyniadau nag a geir yn rhan gyntaf traethawd Roy Thomas, ac ymlaen wedyn, i ddehongli damcaniaeth yr arianolwyr. Mae'n gamp medru casglu popeth mewn dull mor drefnus ac arwain y darllenydd ymlaen o un pwynt i'r Hall heb iddo sylwi ar y symud. Wrth reswm, mi fyddai'n dipyn o orchest i unrhywun nad yw'n economydd ddeall darn Roy Thomas wrth ei ddarllen unwaith yn unig. Ond i'r sawl sy'n mentro ei astudio, bydd yn talu'r ffordd yn helaeth. Ac wedi darllen 'Incwm Cyflogaeth a Chwyddiant', aed ymlaen wedyn i astudio darn Arthur Thomas. Mae'r ddwy araith yn cydbwyso ei gilydd yn hynod o dda, gan fod ysgrif Roy Thomas yn esboniad ffurfiol, ac un Arthur Thomas yn gasgliad o sylwadau ar yr un testun, sef macro-economeg. Ac eto, i'r neb sydd ganddynt gefndir, mae rhai o'i osodiadau'n brofoclyd, eraill braidd yn watwarus, a'r cyfan o'r diddordeb mwyaf-i arianolwyr yn ogystal ag i rengoedd dilynwyr Keynes (neu, beth bynnag, y sawl sydd o'r farn eu bod yn ddilynwyr Keynes, er mae'n debyg mai adar o blu dieithr iawn o ran eu cred a fyddent yng ngolwg y gwr hynod hwnnw!). GRAHAM L. REES Aberystwyth [This small collection of papers (which has been given the title of Work, Energy and Money) is a selection from among those read to the Economics and Social Studies Section of the Guild of Graduates between 1974 and 1980. The collection consists firstly of a paper entitled Man, Energy and Land by Sir Goronwy Daniel, the honorary president of the Section. This is a thoughtful consideration of the