Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CENADAETHAU CYMREIG YR EGLWYS ESGOBOL DREFNYDDOL YN UNOL DALEITHIAU YR AMERICA 1822-1871 Gan Mr. BOB OWEN M.A.. Croesor. OGOFIO'R lIe mawr a fu i bregethwyr a chenhadon a aned yng Nghymru yng nghwrs datblygiad yr U.D.A. y mae'n syndod canfod mor dila a thicra y bu eu cenhadaeth ymysg y Sefydliadau Cymreig yn y wlad honno. Llipa tuhwnt fu gafael y Wesleaid Cymreig ar yr holl daleithiau drwy gydol y cyfnod 1795-1871 a hynny yn wyneb y ffaith ddarfod i laweroedd o Wesleaid selog ymfudo i'r wlad o ganolfannau Wesleaidd fel Tyddyn (yn Llyn) Pennal Llandecwyn; Dolgellau Ystum- tuen, etc., yn y cyfnod 1817-19 ac o 1838 i 1860. Hwyrach y parodd y ffaith fod y Methodistiaid Wesle- aidd yn un o'r enwadau lluosocaf a mwyaf ymdrechgar a dylanwadol ymhlith y Saeson a'r Americaniaid yn America i'r rhai a oedd yn Wesleaid Cymreig gael eu llyncu i fyny ganddynt ar eu mynediad yno. Rhyfedd na fyddai corff o enwad mor gryf a chadarn wedi helpu llawer ar y Cymry i godi achosion Wesleaidd Cymreig ond y mae'n nod- weddiadol iawn ohonom fel Cymry bob amser, mai gwell gennym helpu codi achosion crefyddol i bobl o genhed- loedd cryfach na ni ein hunain mewn gwahanol rannau o'r ddaear, ac at ein gilydd yr ydym yn llawer rhy lariaidd rhag ceisio godro arian o genhedloedd eraill i'n helpu i gynnal ein hachosion ni. Llwyr esgeulusodd y Trefnyddion Calfinaidd yn gystal â'r Trefnyddion Wesleaidd yng Nghymru gynorthwyo aelodau o'u henwadau yn U.D.A. ac yn Awstralia, er crefu ohonynt am i gyflenwad o bregethwyr o Gymru gael eu hanfon i'w plith. Bu'r Parch. James Owen, Pencaerau, Oneida, N.Y., yn crefu ar y Trefnyddion Calfinaidd am flynyddoedd lawer i anfon pregethwyr a gweinidogion i'r U.D.A. ac er iddo anfon llythyrau i'r Cymdeithasfaoedd, troent yn hollol glustfyddar i'w apêl. Diofal a fu'r Bedyddwyr a'r Annibynwyr, hwythau, yn y cyfnodau cyntaf yr aethai ymfudwyr trosodd, ond yr oedd eu polisiau crefyddol hwy yn ei gwneuthur yn haws iddynt hwy godi pregethwyr yn yr Unol Daleithiau na'r Methodistiaid Calfinaidd, beth bynnag am y Methodistiaid Wesleaidd. Gwell gan y Cymry bob amser wario miloedd o arian i gynnal cenadaethau ymhlith brodorion Affrica, China ac India na cheisio cefnogi cenhadon ymhlith eu pobl eu hunain a ymfudodd wrth y miloedd i'r Unol Daleithiau