Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Adroddai Mr. Gwyrfai Jones brofiad a gafodd fel milwr yn y rhyfel diwethaf. Wcdi rhai dyddiau'n brwydro i gymryd un gwn mawr a wnai ddifrod a lladd cannoedd o filwyr Prydain pan lwyddwyd i'w ddistewi, gwelwyd mewn llythrennau clir arno, mai ym Mhrydain ei hunan y'i gwnaed. Dyna wlatgarwch brwd y rhai a gâr ryfel. "Ymwrthodaf" â Rhyfel a pharatoadau ar ei gyfer fel moddion hollol aneffeithiol ac anghristnogol, heddiw a phob amser, i setlo unrhyw gwestiwn cenedlaethol neu gyd-gened- laethol. Ac am hynny, yn enw Crist, ardystiaf yr ymrwymiad hwn yn arwydd o'm parodrwydd i wneuthur fy ngorau i hyrwyddo buddiannau Heddwch." Dyna ymrwymiad mudiad Heddychwyr Cymru o dan arweiniad y Parch. J. W. Jones, Gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd, Cricieth. Rhydd y BRYTHON golofn i'r mudiad a'i bwriad yw ffurfio mudiad i Gymru. Teimla rhai fod mwy nag sydd angen o fudiadau yng Nghymru ac mai gwell fyddai un mawr na llawer o rhai bychain. Y ffaith yw, wrth gwrs, mai un yw'r rhai hyn yn eu hamcan ac ni chredaf y bydd dim anhaw- ster i sefyll gyda'n gilydd pan ddaw galw am hynny. Amdanaf fy hun, llonder yw gweld pob arwydd newydd o gydwybod gwerin yn deffro a dymunaf flwyddyn newydd dda i bob un a gâr dangnefedd a chyfiawnder. Yn ôl pob rhag-olwg fe fydd angen pob bendith arnom. Rhydyfro, Pontardawe. IDWAL JOS. BRO CANTREF MEIRIONNYDD II. Dechreuwyd â chau'r tir yn yr unfed ganrif ar bymtheg; caewyd â gwrychoedd dyddyn o'r enw Tyddyn Llw Ffranc yn y flwyddyn 1564 ym mhlwyf Llanegryn. Erbyn diwedd y ddeu- nawfed ganrif yr oedd brys anghyffredin ynglŷn â'r cau. Gweith- iai'r cloddwyr ar ddau bryd o fwyd yn y dydd, a derbynient rot yn y dydd yn gyflog am eu llafur caled. Bu cloddiau hardd yn falchder amaethwyr am genedlaethau, ond erbyn heddiw y mae parch clawdd da wedi darfod i raddau helaeth yn y wlad. Cyfnod â gobeithion gorau gwerin gwlad ynglŷn ag ef oedd cyfnod ennill tir âr newydd, ond bu aberth gwas a meistr yn ormod wrth gy- flawni'r gorchwyl. Y mae sylwi'n fud ar y tir a enillwyd yn mynd yn ôl yn rhan o'r mynydd yn cychwyn cyfnod torcalonnus