Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

MODERN TIMES." Y MAE gennym ryw obaith y gwelir ffilmiau llafar Cymraeg yng Nghymru ryw ddydd. Hyd hynny ni ellir disgwyl, ac yn wir nid teg fyddai disgwyl, i Gymru ymgadw rhag y fhlmiau Seisnig ac Americanaidd. Er hynny, ac am hynny, carem weld y Cymry sy'n honni bod yn ddiwylliedig yn magu ysbryd mwy beirniadol tuag at y cyfrwng artistig hwn. Y dyddiau hyn, gwelir ffilm yng Nghymru yn dwyn y teitl Modern Times. Charlie Chaplin yw awdur, cynhyrchydd a phrif actor y darlun. Anodd yw cael dynion i gredu y medrir cymryd dyn fel Charlie Chaplin o ddifrif, a bod rhywbeth amgenach na chlownio ang- hyfrifol yn ei ddarlun diwethaf. Y gwir yw mai dameg-a dameg go fyw-ydyw Modern Times, ac fel pob dameg y mae elfen o brotest ynddi: y perygl yw bychanu'r neges am fod ffrâm y ddameg yn ddigrif.. NATUR Pan fo'r hwyr o ruddne'r rhos Yn gweu ei lifrai melfed, A'r Koh-i-noor yn gandryll ar Betalau y fioled. Pan fo swyn y nos i'm trem A sawr y môr i'm ffroenau A siffrwd awel yn y pîn Yn denu fy synhwyrau. Lliw a llun fy mun i mi Sy'n gweu hyd eitha'r gorwel, A'i hislais pêr fel miri'r mor Yn aflonyddu'r awel. MEURIG WALTERS. GOLYGYDDOL