Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Emynwyr Penllyn* gan W. J. Edwards Y mae gan un o feibion disglair y Bala, R. T. Jenkins, baragraff diddorol yn ail ran ei ysgrif, 'Fy Llyfr Emynau Newydd', yn Y Llenor, Haf/Hydref 1942, t.67 (fe'i hailgyhoeddwyd yn y casgliad o'i ysgrifau, Cwpanaid o De a Diferion Eraill, gol. Emlyn Evans, 1997): Ar ôl sir Gaerfyrddin yn bur bell ar ei hôl, mi ofnaf! sylwaf â balchder mawr mai sir Feirionnydd a ddaw'n nesaf; cyfrifais bron ddeg a phedwar ugain o'i hemynau hi. 'Waeth imi fod yn onest: Edmwnd Prys piau bron yr hanner, ac y mae deuddyn hynod an- Fethodistaidd arall, Rolant Fychan ac Elis Wyn, yn dyfod i mewn i'r cyfri Ac mi af ymlaen i gyffesu ein bod ar ryw ystyr wedi 'dwyn' dau wr o sir Gaer oddi ar eu cynefin George Lewis a Thomas Charles. Er hynny, cofiwch chwi, y mae enwau go sownd yn aros, hyd yn oed wedi tynnu'r rhain ymaith: dyna Hugh Jones o Faesglasau a Ieuan Gwynedd, William Jones a William Edwards (y ddeuddyn o'r Bala a ieuwyd mor hapus gan y Pwyllgor yn y rhif 115), Richard Jones o'r Wern a'i gymydog (ond nid ei gyfaill!) John Richard Jones o Ramoth, Roger Edwards a Thegidon a R. J. Derfel (pob clod i'r Pwyllgor am gynnwys yr enw hynod anuniongred hwn) heb sôn am emynwyr modern, rai ohonynt (fel David Miall Edwards) wedi ein gadael, a rhai eto'n fyw ac iach. Gwell dweud mai traethu am Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfìnaidd a Wesleaidd (1927) a wnâi R. T. Jenkins. Rolant Fychan (Rowland Vaughan; c. 1587-1667) Am ei fod yn gyfieithydd disglair y dywedir yn Y Caniedydd, Emynau 'r Eglwys, Y Llawlyfr Moliant Newydd a Mawl yr Oesoedd, mai ef a drosodd 'Tyrd, Ysbryd Glân, i'n c'lonnau ni' a 'Tyrd, Ysbryd Glân, Darlith Flynyddol Cymdeithas Emynau Cymru am 1997, a draddodwyd ddydd Mercher, 6 Awst 1997, ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau, yn y Bala. Cadeirydd: Dr Brynley F. Roberts.