Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

9-132. 60. LIGC, LLS 1961A; [ceir y gwreiddiol yn LLS Caeidydd 1.365, f.[3]v]. 61. LIGC, LLS 128C, f.68a; [gw. hefyd Noel Gibbard, Walter Cradocìc: 'A New Testament Saint' (Pen-y-bont ar Ogwr, 1977), tt 39-40; R. Geraint Gruffydd, 'William Wroth a Chychwyniadau Anghydffurfiaeth yng Nghymru', Ysgrifau Diwinyddol, II, gol. Noel A. Gibbard (Pen-y-bont ar Ogwr, 1988), tLl 34-81. 62. 'Stephen Hughes a'i Gyfnod', Y Cofìadur, 4 (1926), t.8. 63. Hymnau Scrythurol Gan J.O. (1705). 64. Awgrymodd D. Ambrose Jones fod Stephen Hughes wedi cynnwys rhai o'i bethau ei hun yn gymysg â gwaith y Ficer (A History of Carmarthen- shire, gol. J. E. Lloyd, II (Caerdydd, 1939), tt.97-8) ond, fel y dywedoddD. Gwenallt Jones, nid oes sail i'r fath ddyfaliad (Y Ficer Prichard a 'Canwyü y Cymru (Caernarfon, [1946]), t.34). 65. Gw. D. Gwenallt Jones, ibid., tt.56-67, a T. H. Parry-Williams (gol.), Canu Rhydd Cynnar (Caeidydd, 1932). 66. LLSBangor401,ff.l61-2. Yr oedd Llanymddyfri yn hen dref ar un o ffyrdd pwysicaf Cymru, sef yr hen ffordd Rufeinig a arweiniai o Gaerfyrddin i Aberhonddu. Bu'n ffordd bwysig ar hyd y canrifoedd ac erbyn yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd Llanymddyfri wedi datblygu'n un o ganolfannau masnachol pwysicaf y De. Cyfarfyddai'r porthmyn yno am fod porfa fras blaenau Tywi yn Ue da i orffwyso'r gyrroedd mawrion o wartheg ar eu ffordd o siroedd y gorllewin i farchnadoedd prysur de Lloegr. Fel bob amser, denai masnach bobl eraill i wasnaethu'r marchnadwyr, a datblygodd tafarnau a phuteindai i baratoi ar gyfer angenrheidiau a diddanwch y porthmyn a'u gweision. Nid damwain oedd mai yn Llanymddyfri y sefydlwyd y banc cyntaf yng Nghymru byddai arian yn dylifo i'r dref pan ddychwelai'r porthmyn o Lundain, a byddai'r tafarnwyr a'r marsiandïwyr eraill yn barod iawn i ddarparu ar eu cyfer. Ond i'r Ficer [Prichard] yr oedd y meddwdod a'r anfoesoldeb a welai beunydd. ar ei strydoedd yn dramgwydd parhaus, ac yn y gerdd, 'Mene tecel, tre Llanddyfri', ymrithia fel un o broffwydi'r Hen Destament, gan ddarogan gwae oni fydd trigolion y dref yn gwella'u buchedd. Nesta Uoyd yn ei detholiad o gerddi Rhys Prichard, Cerddi'r Ficer (1994)