Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Josiah Brynmair Un o feibion Llanbryn-mair oedd yr emynydd a elwid yn Bantycelyn America, sef Josiah Brynmair. Fe'i ganed ar 4 Gorff- ennaf 1807, yn fab i Josiah Jones, Braichodnant, Llanbryn-mair, a'i wraig Mary. Ar ochr ei fam roedd yn gefnder i Daniel Davies, tad 'Mynyddog', ac i Evan Davies ('Eta Delta'). Mary oedd enw gwraig Josiah Brynmair yntau hefyd, sef Mary Hughes, Bryn-coch, Llan- bryn-mair. Fe'u priodwyd ar 17 Ebrill 1833 a chawsant wyth o blant Thomas (a fu farw'n chwe mis oed), Thomas H., Mary, Anne, Josiah, Martha, Margaret Lydia, a Llywelyn. Pan ydoedd yn 34 oed, fe'i gwnaed yn ddiacon yn yr Hen Gapel, Llanbryn-mair, ond tua diwedd y flwyddyn 1850 ymfudodd i Gomer yn Ohio. Ffermio fu ei waith yng Nghymru a'r Amerig, ond bu'n drefnydd angladdau yn ogystal yng Ngomer. Bu farw 15 Hydref 1887, ac fe'i claddwyd ef a'i briod ym mynwent Tawelfan, Gomer. Mae'n debyg fod traddodiad llenyddol cryf yn nheulu Josiah, a dywedir iddo gyfansoddi ei benillion cyntaf pan oedd ond yn wyth mlwydd oed. Yr oedd yn fardd cynhyrchiol iawn ac ymddengys ar ei orau yn cyfansoddi penillion coffa ac emynau. Cyhoeddwyd nifer mawr o'i gerddi mewn cyfnodolion megis Y Cronicl, Y Dysgedydd, Y Celt, Y Cenhadwr Americanaidd ac Ymwelydd Misol Annibynwyr Llanbrynmair a'r Cylch. Yr oedd yn ddigon cyfarwydd ag ysgrifennu rhyddiaith hefyd, ac ymddangosodd ysgrifau o'i eiddo yn Y Dysg- edydd, Y Cenhadwr Americanaidd a'r Drych. Erbyn iddo ymfudo i'r Amerig yn 1850 yr oedd Josiah eisoes wedi cyfansoddi ei emynau mwyaf adnabyddus. Cynhwyswyd un ar bymtheg ohonynt yng nghasgliad Samuel Roberts ÇS.R.'), Casgliad o dros Ddwy Fil o Hymnau, yn 1841. Yr oedd Josiah yn gyfeillgar iawn â'r Robertsiaid. Dyma a ddywed ei fab am y berthynas rhyng- ddynt: 'Treuliasant y 45 mlynedd cyntaf o'u hoes yn gyfeillion pur a ffyddlon. Cyfeillachent lawer, cydymgynghorent yn aml, gan gyd-gyfansoddi a chyd-farddoni; cydgynullient hefyd gyda chario ymlaen achos Duw. Cydweithiasant i gael allan y "Casgliad o Dros Ddwy Fil o Hymnau" a buont yn cyd-blanio i gychwyn Y CronicF (T. H. Jones yn Ymwelydd Misol Annibynwyr Llanbrynmair a'r Cylch, Medi 1913, atodiad t. 4). Ei emyn enwocaf yn ddiamau, ac emyn sy'n cael ei ganu o hyd, yw Ю am ysbryd i weddio' (rhif 1283 yn nghasgliad S.R.). Fe'i cyfansoddwyd yn y flwyddyn 1825 pryd yr oedd y cyfarfodydd gweddi yn eu hanterth yn Llanbryn- mair. Ceir ymdriniaeth gan y Parchg. W. Meirion Davies ar "Josiah Brynmair" a'i Emynyddiaeth' yn Y Cenhadwr Americanaidd, cyf. LVIII (1897), tt. 77-80, ac un gan y Parchg. R. Gwylfa Roberts ar "Josiah Brynmair" Emynydd Anfarwol' yn Y Dysgedydd, Awst 1914, tt. 363-73. Yn ei erthygl, mae R. Gwylfa Roberts yn tynnu ar ysgriflyfr o eiddo Josiah Brynmair, sy'n rhestru'r emynau o'i waith