Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

A chasglaf, un ac un, fy nghregin-funudau, pwythaf hwynt â'm hanadl-edaiedd; fy nghariadon a'u gwisg uwch farw-fron foryndod ar lwybrau pum perllan lle nytha'r adar yn yr ymennydd a deor; a gwyrdd fydd d'oedran, f'anwylyd. yn eurfis serch, fy mlodyn-o-dân yng ngardd-eira calendrau coll; cybyddais yr ias-geiniogau i gyd ym mhwrs agored dy gnawd. Ond am bum-munud wedi tragwyddoldeb daw llanw, llanw a thrai a llanw, a pha beth a welaf, pa beth pan daflaf angor i 'r gwacterau rhwng gwacterau a'r tywyllwch tu hwnt i'r sêr? Caf weíed fy miagur, fy ngweddiau'n ganghennau haearn, a'r petal-feddwl yn dal y môr olaf a'r farwolaeth anferth, fel y deil bedd*yr arch, yn dwt. RHYDWEN WILLIAMS. CATWLWS O FERONA "Catwlws druan, ynfyd, rho heibio d'eiriau fíôl, A welaist ti yn darfodfni fedri ei alw'n ôl. Tywynnodd iti unwaith ddisgleiriaf heuliau serch, Pan ddeuit lawer siwrnai i'r lie y denai'r ferch. Ti gofi'r ami ddigrifwch a gawsoch yn gytûn, Yr hyn a fynnit dithau ac nas gwrthodai'r fûn Catwlws o Ferona, ciliodd dy heuliau di, Aeth Rhufain dros y gorwel, mewn angof mae ei bri; Mae tywyllwch dros yr hollfyd, ac ni bu oes mor erch, Mwy yw fy niolch innau, disglair yw heuliau serch. J. GWYN GRIFFITHS.