Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

helaeth o'r moethau, sychodd ei wefusau tewion ac aeth yn syth o'r ford i eistedd wrth y piano. Rhedodd ei fysedd yn ysgafn ar hyd-ddo, yna torrodd allan i ganu cân serch. Eisteddai Wil fel pe wedi ei syfrdanu. Distawodd y gân, a daeth John Evans yn ôl ato; safodd uweh ei ben am eiliad, a rhoddodd ei law ar ei rudd. Dyna dwrw wrth y drws, a daeth Mari'r forwyn i mewn; edrychodd yn syth i lygaid ei meistr; am foment yr oedd y frwydr yn y fantol, yna daeth llais John Evans fel pe o fyd arall. "O! wedi dod i gasglu llestri swper?" a heb aros i gael ateb cerddodd allan. Casglodd Mari'r llestri swper at ei gil- vdd a chyn troi i'r gegin dywedodd yn dawel wrth Wil, "Bydd popeth yn iawn, machgen i, mae Mari yma." Hwteri'n ubain eu gosberol wŷs Uwch strydoedd afiach o dan haenau'r llwch; Ffftmerau, fel pe'n gwarchod temlau chwys, A chwydd eu gwenwyn llosg yn dorchau trwch. Gyrr ambell heulwen ar ddisberod dro Eu gwawl annisgwyl i gilfachau 'nghell; A chlywaf dwrf gorymdaith gweithwyr bro Yn llenwi'r palmant, yna'n cilio 'mhell: A'm trem yn fodlon ar y llwydni hyll, Cerddaf y tipiau fel gwrthnysig ffŵl; Plentyn y golau yn mwynhau y gwyll, A'm henaid i bob cyffwrdd mwy yn bŵl; A fry ar gynfas nef am euraid awr, Mae Duw'n afradu Ei iyfeddod fawr. Pontarddulas Ymhen rhyw chwe mlynedd ar ól hyn gwelwyd Wil yn wynebu llys barn yn Llundain dan y cyhuddiad o wisgo dillad merch a cherdded Piccadilly oriau mân y bore. Yn yr amddiffyniad daeth enw John Evans gerbron, a sôn am y nos honno pan gymerodd i'w gartref hogyn ifanc diniwed. Cafodd y mater Ie amlwg yng ngwasg y Brif Ddinas, a'r bore can- lynol gwelwyd yn y "Western News": Evans-Jones. The engagement is an- nounced of Mr. John Evans, Tre- wesin, Llanymwyn, and Miss Mary Jones, of the same address. "O'r diwedd," meddai pobl, "dyma Mari'r forwyn wedi dal yr hen walch." Byr fu eu cân: y noswaith honno cafwyd corff marw John Evans ar lwybr yr ardd wrth ochr y gwely blodau. TERFYN DYDD GLYN HOPRINS