Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

wir," meddai ef. Ceisiais drafod barddoniaeth Syr Thomas Parry- Williams yn y golau hwnnw, a deuthum i'r casgliad ei bod yn codi uwchlaw Pesimistiaeth a bod ynddi fynegiant o ddioddefaint arbennig sy'n amgenach na rhyw gredo ddynol, arwynebol. Enwa Mr. Jones Thomas Hardy fel pesimist arall. Credaf fod yr un peth yn wir, mewn ffordd wahanol, amdano yntau. Nid eu pesim- istiaeth sy'n eu gwneud hwy'n llenorion nodedig ond eu gwerth cadarnhaol, byw. Ohenvydd eu bod hwy'h rhoi bywyd" yn hytrach na'i wadu y maent yn dyfod i'r Arch. Nid wyf am ailadrodd y dadleuon ynghylch Optimistiaeth Gristnogol y ceisiais eu datblygu yn I'r Arch. Eithr credaf fod hyn yn fater o arddull bid siwr yn ogystal â chynnwys. Y mae gwerth llên yn dibynnu ar werth yr hyn a ddywedir. Y mae ein gwerthfawrogiad o'r hyn sydd gan lenor i'w ddweud yn dibynnu ar yr hyn a ddywed. A'r gwir yw, 'does dim rhaid i artist fod yn bregethwr (na cherflunio wynebau Cristnogion) i ddweud y Gwir- ionedd mawr a threiddiol: fe all fod yn Van Gogh, yn Blato, yn Williams Parry-neu yn Jeremeia. Yn Gristnogion neu beidio, mae'n rhaid inni i gyd sefyll gerbron barn Gristnogol: 'does neb yn gallu nofio y tu allan i'r Arch-ar hyd tragwyddoldeb, beth bynnag. Fe gredaf fod y ddadl hon yn fater o resymu syml nid mater o fam yw hi, o gwbl-i Gristnogion o leiaf. Ffordd o fyw yw llenyddiaeth, dyna i gyd. Ond Bodolaeth gywir oll yw Cristnog- aeth, bob mymryn a phob agwedd. A gwiw i ni yn yr achos yma wahaniaethu rhwng y ddwy ddadl i. A oes rhaid i lenor fod yn Gristion ? Nac oes. Yr unig raid i lenor yw bod yn bechadur. 2. A oes rhaid barnu yn ôl safonau Cristnogol ? Oes. Nid oes dim safonau iawn eraill-mewn unrhyw faes. Yn awr, fe ellid gofyn sut y mae barnu hyn a'r llall "yn ôl safonau Cristnogol beth a ddywedir am y gerdd hon neu'r stori fer arall ? Ni welaf fod hyn yn fwy anodd mewn llenyddiaeth nag mewn unrhyw gyfeiriad arall: rhaid cymhwyso'r goleuni a gawsom orau y gallwn (a chyda help ysbrydol, mi a obeithiwn) at bob achlysur unigol. Fe geisiais innau, yn ddigon gwantan mae'n debyg, ym mhob pennod yn I'r Arch ddilyn yr egwyddor honno, er mai'r ymdriniaeth â Phesimistiaeth oedd yr unig agwedd a dynnodd fryd Mr. J. Gwilym Jones. Wedi'r cwbl, yn nhradd- odiad yr Eglwys-a dyna, bid siŵr, oedd arwyddocâd y teitl- pren y Groes oedd yr Arch. BOBI JONES