Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Llwyfan. 2. YR ARTIST A'I OES. Gofynwyd i ni/cr o artistiaid a gredent Jncy fod swyddogaeth arbennig Vr celfyddydau heddiw. Cyhoeddwn eu hatebion isod. D. J. WILLIAMS. "All art is propaganda," medd Eric Gill yn rhywle. A byddai'n llawn mor wir mewn un ystyr pe dywedai "All life is propaganda." Oherwydd nid yw celfyddyd ond ymdrech ar- uchelaf dyn i esbonio bywyd-ei weld, ei drefnu a'i fynegi o'r newydd fel ag i'w wneud yn fwy amgyffredadwy i'w gyd-ddyn. O ganlyniad, y mae bywyd pob unigolyn, yn ymwybodol neu'n anymwybodol, yn rhyw fath o fynegiant, amrwd ac anghyflawn fynychaf, mae'n wir, o'r hyn a gred ef yw bywyd, neu yr hyn a hoffai iddo fod. A dyna, yn gyffredinol, yr hyn a olygir gcnnym wrth bropaganda, onid e ? Troi barn ac ymddygiad eraill i fod yr un fath â'r eiddom ni. I'r sawl sy'n derbyn y grefydd Gristnogol o'i tharddiad yn y grefydd Iddewig fel safon ei fywyd y mae i'r Cread ei hun, ac i ddyn fel llwchyn bywiol ohono, bwrpas-pwrpas moesol. Nid hap a damwain a fu'r creu cyntaf. Ni all y Cristion proffesedig ymwadu â'r pwrpas hwn i'w fywyd heb ymwadu â'r hyn a deimla ef yw ei hanfod ysbrydol yn Nuw. Fe'i dysgir fod yn y byd dda a drwg — tywyllwch a goleuni, cariad a chasineb, cyfiawnder ac an- ghyfiawnder, a'r cyfan sy'n dilyn o hynny yn nhryblith anesbon- iadwy pethau. Mae yn ei natur yntau yr un priodoleddau ac fel bod moesol y mae ar ei law i chwennych, 0 leiaf, ddewis rhwng y naill a'r llall, boed y dewis hwn mor gyfyngedig neu astrus ag y bo. Ac os mynn dyn fod yn Gristion ac yn deilwng o'r enw hwnnw, nid oes iddo dir niwtral. Rhaid iddo gymryd ochr, a hynny nid yn ôl ei anian gynhenid ei hun na'i fantais dymhorol o angenrheidrwydd, ond yn ôl yr anian newydd a feithrinir ynddo fel dinesydd o deyrnas nad yw o'r byd hwn. Ei ddyletswydd, gan hynny, yw hyrwyddo buddiannau'r deyrnas hon ar y ddaear yn ôl y goleuni uchaf a roddwyd iddo. Ei ymroddiad llwyr i hyn trwy gymorth gras Duw sy'n gwneud sant o bechadur. Pan geisio dyn ei les, ei bleser a'i ddiogelwch ei hun yn gyntaf, fe baid a bod yn Gristion beth bynnag a fo'i broffes. Rhodd Duw, ddi-ddiolch i ddyn, yw pob cynneddf, bod fawr, cyffredin neu fach. A pho fwyaf y rhodd mwyaf y cyfrifoldeb.