Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ADDASU, CYFADDASU A CHYHOEDDI YN Y GYMRAEG 1965-1995: PETH O FFRWYTH YMCHWILIO'R MAES CATRIN VAUGHAN HUWS a D. HYWEL E. ROBERTS Perchennog Gwasg y Lolfa, Robat Gruffudd, yw'r cyhoeddwr sydd wedi lleisio'r farn gliriaf am un o nodweddion amlycaf cyhoeddi llyfrau yn yr iaith Gymraeg yn y cyfnod diweddar, sef addasu llyfrau o ieithoedd eraill er mwyn sicrhau nifer ac ystod digonol 0 lyfrau o safon uchel i ddiwallu'r galw. Iddo ef: Mae addasu llyfrau o ieithoedd eraill yn arbennig o'r Saesneg ar gynnydd ac mae'n adlewyrchiad trist o'r meddwl taeog neu ddiog y tu ôl i gynlluniau comisiynu y Cyngor Llyfrau a'r Canolfannau Adnoddau Addysg Trueni yw gweld rhai cyhoeddwyr yn syrthio i'r fagl ac yn cynhyrchu addasiadau wrth y dwsinau. Pam fod hyn yn digwydd a chymaint o awduron, dylunwyr ac arlunwyr ar gael i wneud gwaith gwreiddiol Cymraeg a Chymreig yng Nghymru? Mae prynwyr a darllenwyr llyfrau'r wasg honno wedi ymgynefino bellach â'r nod arbennig sydd arnynt: Llyfr Gwreiddiol Nid Addasiad. Nid yw cyhoeddi yn yr iaith Gymraeg yn unigryw yn y modd y cyhoeddir llyfrau sy'n addasiadau neu'n gyfaddasiadau o ieithoedd eraill. Rhwng 1984 a 1990 roedd cyfieithiadau a chyfaddasiadau yn gyfran oddeutu 3.5% o'r holl lyfrau a