Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Newid Byd. Pwy wyr na bydd i ni ryw hwyrddydd haf fel hwn, gyd-rodio eto law yn llaw a fflam ein cariad brwd yn ysu'n cnawd a rhuddo'n gwedd â gwrid synhwyrus serch; Ac yn y cyfnos gorwedd dan y coed a gwrando miri' r gwyrdd-ddail, fin wrth fin ac ymddiddori yn nigrifwch serch am ennyd-dragwyddoldeb bywyd Uanc. Ond dichon na bydd mwyach gancr serch, bob hir gyd-wefus gwin yn ysu'n cnawd pan uner ni gerbron yr allor lân a rhoi sêl Duw a Grwndi ar ein blys. MEURIG WALTERS. Fy Ngardd. Mae coed afalau yn fy ngardd, A'u blodau hardd yn urddas, A' u lliwiau fil ar frigau fyrdd Yn llonni ffyrdd y gwyrddlas. O danynt rhodiaf gyda'r nos A rhwng y rhos a'r llysiau, Ac yno oedaf bron yn fud Oherwydd hud y blodau. O Rosyn annwyl, tyrd i'r ardd Mae blodau hardd yn urddo, Ac yna gweli gennyf i Na elli di fy nhwyllo. GERAINT BOwLN.