Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYFROL I, RHIF 10 AWST 1931 AUGUST PRIS 6D. Yn y Rhifyn Hwn Castell Penrhyn (y Stablau) tudalen 22. YSGRIFENNIR GAN Timothy Lewis R. Williams Parry Cynan David Evans Caradog Prichard R. O. Rowlands O. J. Williams Stafford Thomas STORI, DARLUNIAU, A CHYSTADLEUON. The Popular Monthly of Wales and the Welsh People throughout the World Prydiau Bwyd Maethlon yn yr Haf. R HAID i brydiau bwyd yn yr haf-gartref neu allan-fod yn hudolus, ond rhaid iddynt fod yn faethlon hefyd. Y mae'r archwaeth yn anwadal, ac nid ydyw prydiau cyffredin yn yr haf yn cynhyrchu digon o'r maeth sy'n rhoddi egni. Dyna paham y mae Mam bob amser yn rhoddi Ovaltine Oer yn ddiod gyda phrydiau haf. Fe wyr hi fod y diodfwyd blasus hwn yn rhoddi maeth llawn yn y pryd bwyd ysgafnaf. Y mae'n cynnal nerth a bywiogrwydd ac yn rhwystro diogi a blinder yr haf. Hawdd ei baratoi trwy ei ychwanegu at laeth oer a'u cymysgu am funud. OVALTINE Prisiau ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon, 1/3, 2/- a 3/9 y tun. y* OER P855-64