Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYFROL I, Rhif 3 IONAWR 1931 JANUARY PRIS 6D Yn y Rhifyn Hwn Abaty Margam (tudalen 19). 'OES MODD DWEUD Y GWIR O'R PULPUD? (Y Parch. Stephen Owen Tudor). DEUWN, CERDDWN GYMRU (R. Cecil Hughes). CYMRU A LLOEGR MEWN RHWYD (W. Eames). Y CYMRO YN Y RHYFEL: Straeon eto. HIWMOR YR YSGOL SUL (Waldo Williams). CAMDDEALL MIWSIG CYMRU (Edward Tudur). BETH WELAIS YM MHARIS (Dr. E. T. Davies). Y GWIR AM GOLEG DEWI SANT (Y Parch. J. Owen Jenkins). STORI GYFAN, GOLFF, RYGBI, LLYFRAU, LLYTHYRAU. The Popular Monthly of Wales and the Welsh People throughout the World Llythyr Agored at y rhai sy'n chwannog i gael annwyd AYDYCH chwi'n un o'r bobl anffortunus hynny sy'n cael annwyd yn fuan ? Bob blwyddyn yr ydych yn dioddef cyfres o'r anhwylderau yma, sy'n ymddangos yn bethau bychain ond sy'n arwain yn fynych i froncitis, newmonia ac afiechyd difrifol eraill. Hyd yn oed pan osgoir yr afiechydon hyn, y mae annwyd cyffredin yn gwanhau'r corff. Yr unig ffordd i beidio â chael annwyd ydyw grymuso'ch galluoedd naturiol i wrthsefyll afiechyd. Y mae bwyd iawn yn holl-bwysig. Gan nad oes digon o faeth yn y bwyd beunyddiol cyffredin, rhaid gwneud iawn am ei ddiffygion trwy gael bwyd sy'n gyfoethog yn yr elfennau hynny sy'n creu iechyd, nerth, a bywiogrwydd. 'Does dim modd cael cymaint o faeth o unrhyw fan arall ag a geir o Ovaltine blasus. Y mae ynddo'r holl elfennau bwyd sy'n angenrheidiol i adeiladu'r adnoddau hynny o nerth a'ch ceidw yn rhydd oddi wrth anwydau ac afiechydon gaeafol eraill. O laeth, brag, ac wyau y gwneir Ovaltine." Dyma fwydydd gorau Natur, ac yn Ovaltine fe'u ceir mewn ffurf gref a hawdd eu treulio. Nid oes diodfwyd sy'n llawnach o faeth adfywiol — na'r un sy'n haws ei dreulio. Ef hefyd ydyw'r rhataf a'r mwyaf darbodus i'w ddefnyddio. "Ovaltine" Prices in Great Britain and N. Ireland, P688 1/3, 2/- and 39 9 per tin.