Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLEUFER CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU CYF. XIII HYDREF 1957 Rhif 3 NODIADAÜR GOLYGYDD BOB amser pan fydd gweithwyr ar streic, bydd tuedd yn fy meddwl i ochri gyda hwynt; ond nid yw hynny'n golygu fy mod yn coleddu'r ofergoel fod y werin-bobl i gyd yn saint, a'r gweithiwr bob amser yn iawn. Byddaf yn trio 'ngorau glas ddal y ddysgl yn wastad, a barnu pob achos ar ei deilyngdod. Rhyw sylwadau a awgrymwyd imi gan y streiciau diweddar sydd gennyf i'w cynnig yn awr, ond nid wyf yn bwriadu trafod teilyngdod yr un o'r streiciau hynny. Bûm yn teimlo lawer gwaith o'r blaen fod rhywbeth annheg iawn yn y modd y bydd y papurau newydd a'r BBC yn adrodd hanes streiciau. "Y gweithwyr" sydd ar streic bob amser; hwy sydd yn achosi'r holl helynt; hwy sydd yn gyfrifol am bob an- hwylustod a ddaw ar y wlad. Ond nid yw hyn yn wir. Nid y gweithwyr yn gwrthod gweithio, a'r meistriaid yn fodlon eu cyflogi, a geir yma. Anghydfod rhwng dwy blaid sydd yma, ac y mae'r naill blaid a'r llall yn gyfrifol am yr anghydfod. Y maent ill dwy ar streic. Y mae'r gweithwyr yn berffaith fodlon gweithio ar eu telerau eu hunain, ond yn mynd ar streic yn erbyn gweithio ar delerau'r meistriaid. Y mae'r meistriaid yr un modd yn fodlon cyflogi'r dynion ar eu telerau eu hunain, ond yn streicio yn erbyn eu cyflogi ar eu telerau hwy. Y mae'r naill ochr a'r llall ar streic yn erbyn telerau ei gilydd, a pheth annheg iawn ydyw i'r papur- au newydd a'r BBC ddweud fod un blaid ar streic heb nodi fod y blaid arall ar streic yr un pryd. Bydd pob siopwr yn mynd ar streic ar unwaith os cynigiwch yr hen bris iddo ar ôl i'r prisiau godi. Ni allwn farnu yr un anghydfod gweithfaol drwy ddweud yn syml fod un ochr "ar streic". Rhaid barnu pob achos ar ei deilyngdod, ac ni all neb wneud hynny heb wybod yr amgylch- iadau yn llawn: