Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cyf. XI R HAI wythnosau'n ôl, mi glywais drafodaeth ar y radio ar ddysgu'r iaith Gymraeg yn yr ysgolion. Athro yn adran hyffoiddi un o golegau'r brifysgol oedd un o'r siaradwyr, a chyf- arwyddwr addysg, ac arolygydd a chyn-arolygydd ysgolion. Diddorol iawn oedd clywed arolygydd ysgolion o Sir Fynwy yn tystiolaethu bod pobl y sir honno yn selog dros ddysgu Cymraeg i'w plant yn yr ysgolion. CoSaf ddarllen rai misoedd yn gynt hanes cwestiynau yn cael eu hanfon i rieni'r sir oddi wrth y Cyfarwyddwr Addysg, yn gofyn iddynt a garent hwy i'w plant gael dysgu Cymraeg. Kid oedd prin ddyrnaid o'r rhieni hyn yn Gymry Cymraeg eu hunain, ond o'r miloedd a atebodd yr oedd tua thri chwarter ohonynt (os wyf yn cofio'n iawn) yn pleidio dysgu Cymraeg. Y mae pobl Sir Fynwy," meddai'r arolygydd, yn teimlo mai Cymry ydynt, a theimlant hefyd na allant gael eu hunoli â Chymru heb ddysgu'r iaith." Arwydd calonogol iawn ydyw hwn o'r ewyllys i gadw Cymreictod Cymru'n fyw hyd yn oed yn y sir a Seisnigwyd fwyaf. Arwyddion eraill sydd megis gwellt yn dangos cyfeiriad y llif ydyw (I) fod y Cyngor Sir wedi gosod bwrdd i fyny ar y terfyn rhwng Sir Fynwy a Lloegr, yn dweud, Welcome to Wales a'r (2) fod Côr Meibion Glynebwy^ mewn cystadleuaeth yn Eisteddfod Llangollen eleni, wedi camrr darn o'u dewisiad eu hunain yn Gymraeg. Trafodwyd yr anawsterau ar ffordd dysgu Cymraeg yn ysgolion Cymru, a'r pennaf un ydyw prinder athrawon cymwys ar gyfer y gwaith. Bydd Cymru'n hyiiorddi nifer fawr o athrawon yn ei cholegau bob blwyddyn, a bydd llawer o'r rheini yn arbenigo yn yr iaith Gymraeg, ond gorfodir hwynt gan y Weinyddiaeth Addysg i fynd i wasnaethu yn Lloegr. Yn awr, nid oes fawr o amheuaeth nad oes duedd yng Nghymru i fwy o'i meibion a'i merched ewyllys- io mynd yn athrawon nag y mae ar Gymru angen amdanynt a CYLCHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITMWYR YNG NGHYMRÜ f LLEUFER NODIADAU'R GOLYGYDD HYDREF 1955 Rhif 3