Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. II Rhif 4 Golygydd: E. WYN JAMES, B.A. Rhag. 1981 John Thomas, Rhaeadr Gwy* Ganed John Thomas (neu Ioan Thomas Bach fel y'i gelwid gan ei gyfoedwyr) yn y flwyddyn 1730 i deulu 'didoreth a digrefydd' (chwedl Dyfnallt yn ei ragair i hunangofiant J.T., Rhad Ras) a letyant mewn bwthyn o'r enw Col ym mhlwyf Myddfai, sir Gâr. Fe ddaeth y Col yn enwog wedi dyddiau J.T. fel cyrchfan Methodistiaid y cylch i gynnal cyfarfodydd gweddi cyn sefydlu'r achos ym Methania; ond, hyd y gwyddwn, nid teulu J.T. oedd yn byw yno y pryd hynny. Fe'i rhoddwyd at famaeth pan yn ifanc iawn, sef ei fodryb, gwraig ei ewythr, 'yr hon a'm carodd fel pe buasai yn fam i mi, ac yn llawer mwy na fy mam fy hun'. Nid oedd amgylchiadau teulu J.T. yn hapus o gwbl, roeddynt yn llethol o dlawd, ac ymddengys bod Siôn bach yn blentyn hynod amhoblogaidd. Priodol yw i ni ymdrechu deall y rheswm pam. Yn gyntaf fe gyrhaeddodd ar adeg letchwith iawn. Bu'r flwyddyn flaenorol, 1729, yn un galed iawn, gyda'r cynhaeaf yn methu, prisiau yn saethu lan a'r frech wen yn ysgubo'r wlad. Roedd bywyd y tlodion yn gyffredinol yn dorcalonnus o anodd. Er na wyddys y rhif, roedd Siôn yn un o nifer o blant ac roedd ei rieni yn methu'n lân ag ymdopi. Cyfeiria'n aml yn ei hunangofiant at ei deulu ac ato ei hun fel 'y gwaelaf a'r mwyaf distadl o dy fy nhad', a dywed yn nes ymlaen fod 'plant fy mam' yn ei wrthwynebu y cyfan yn awgrymu ei fod o deulu niferus. Ni chafodd groeso ar aelwyd ei rieni hyd yn oed pan yn llanc. Bu ei ewythr farw pan oedd yn 8 oed, a gorfodwyd i'w fodryb gariadus ei droi o'r ty oherwydd ei hamgylch- iadau llwm. Nid yw'n dal dig ati, ond ni dderbyniwyd ef yn ôl gan ei rieni. Efallai taw'r ail reswm y gellid ei roi tros ei wrthod gan ei rieni oedd y ffaith ei fod yn blentyn ychydig yn anghyffredin. Yn sicr, roedd yn hynod o sensitif, yn teimlo 'Ysbryd yr Arglwydd yn dechrau ymryson â mi' pan yn 4 neu 5 oed. Holai ei fodryb yn drylwyr ynglyn â nefoedd ac uffern a Dydd y Farn. Onid oedd hynny'n ddigon anghyffredin, mae'n sicr fod y ffaith iddo gael convulsion fits pan yn ifanc iawn, a dioddef rhwng byw a marw am ryw fis o amser, Talfyriad o ddarlith a draddodwyd yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Emynau Cymru yng Nghapel Bethania, Tre-gwyr, 6 Awst 1980, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Lliw.