Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. 1. Golygydd: Y Parch. Gomer M. ROBERTS, M.A., Gorff. Rhif 8. Llandybïe, Dyfed. 1975. Y DDAU DAVID CHARLES- EMYNWYR TREF CAERFYRDDIN1. Wele destun addas i draethu arno yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas Emynau Cymru yn ystod ein Gẃyl Genedlaethol ym Mro Myrddin. Yr ydym mewn man addas i wrando'r ddarlith, sef yng nghapel Heol DWr, Caerfyrddin, lle bu'r ddau David Charles, y tad a'r mab, yn aelodau ac yn flaenoriaid. Yr hyn a gadwodd eu henwau ar gof gwlad yn anad dim arall yw eu hemynau Cymraeg, a pharheir i ganu cryn nifer ohonynt. Fel mae'n digwydd nid eu hemynau yw'r unig beth sy'n gyffredin i'r tad a'r mab. Dilynasant ill dau yr un alwedigaeth yn y dref hon, sef gweithio rhaffau. I ganlyn tymor fel blaenoriaid yn yr eglwys hon fe ymroes y ddau i bregethu yn ddiweddar mewn bywyd pan oeddynt tua'r un oedran, sef 46ain oed, ac ordeiniwyd hwy i'r Weinidogaeth. Heblaw hyn fe briodasant pan oeddynt tua'r un oedran a chymryd gwraig bob un yn gymar ac iddi'r enw Sara. Eto, fel cynifer o'u cyfoeswyr fe welsant gladdu rhai o'u plant a chawsant fyw mwy neu lai i'r un oedran. Cyn manylu ar eu gwaith fel emynwyr gorau peth fydd bwrw cipdrem ar eu bywydau. Yr oedd Rees Charles (m. 1787) o blwyf Llangynnwr, sir Gaerfyrddin, yn dad i o leiaf bedwar ar ddeg o blanr2. Wythfed plentyn o'i ail briodas oedd David Charles hynaf, ac fel hyn y cofnodwyd ei fedydd yn eglwys blwyf Llanfihangel Abercywyn, chwe diwrnod ar ôl ei enedigaeth yn ffermdy Pantdwfn yn y plwyf hwnnw: 1762 [8br.] 17th. David S. of Rees Charles [baptized]3. Symudasai ei rieni i fyw i'r plwyf hwn cryn bymtheng mlynedd cyn hyn. Ni wyddys rhyw lawer am ei blentyndod, eithr sicr ydym na ddilynodd ei frawd enwog Thomas Charles (1755-1815) i'r coleg. Ymroes i fasnachu a thebyg iddo wneud hynny dan anogaeth teulu